Skip to main content

Presennol yn y DU

Hysbysadwy – gweler ‘Riportiwch eu gweld’ isod

Enw gwyddonol: Thaumetopoea processionea

OPM procession around trunk. Copyright H Kuppen.jpg

Llun: Henry Kuppen

Mae lindys (larfau) ymdeithiwr y derw (OPM) yn bla ar goed derw (coed yng ngenws Quercus), ac yn berygl i iechyd pobl ac anifeiliaid. Fe wnaeth OPM gyrraedd Lloegr yn ddamweiniol am y tro cyntaf yn 2005, ac mae’n destun rhaglen arolygu a rheoli a arweinir gan y llywodraeth i leihau ei phoblogaeth, ei lledaeniad a’i heffeithiau.

Mae taflen wybodaeth i’r cyhoedd yn trafod ffeithiau allweddol, adnabod OPM a’i rheoli ar gael. Gellir gofyn am gopïau wedi’u hargraffu trwy gysylltu â thîm OPM (gweler ‘Cysylltiadau’ isod). Mae’r fideo YouTube canlynol, a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth, yn amlygu peryglon OPM (gweler hefyd adrannau ‘Y bygythiad i goed’, ‘Y bygythiad i bobl ac anifeiliaid’ a ‘Rhagofalon iechyd’ isod).

Sylwch nad yw FR yn gyfrifol am, nac yn cymeradwyo, unrhyw gynnwys fideo a allai gael ei awgrymu gan YouTube cyn neu ar ôl y fideo hwn.

Y sefyllfa bresennol

Dim ond mewn ardal ddaearyddol gymharol fach o’r wlad ledled Llundain a’r ardaloedd cyfagos y mae OPM wedi’i sefydlu.

Nid yw’n bosibl dileu’r achos mwyaf yn Llundain a’r ardaloedd cyfagos, ond mae rhaglen gan y llywodraeth ar waith ers 2012 i leihau ei maint, ei lledaeniad a’i heffaith. Mae’r rhaglen wedi’i haddasu dros dreigl amser gan ystyried tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg a data gwyliadwriaeth.

Mae dulliau rheoli OPM yn amrywio ar draws Lloegr i adlewyrchu dosbarthiad hysbys y pla ac i amddiffyn mannau sydd heb eu heintio. Yr amcanion polisi trosfwaol ar gyfer OPM yw arafu lledaeniad OPM, lleihau lefelau plâu a diogelu adnoddau derw, ac ar yr un pryd, cynorthwyo tirfeddianwyr i reoli’r risgiau sy’n gysylltiedig ag OPM yn y mannau ble mae OPM wedi’i sefydlu. Un o nodau polisi’r llywodraeth yw amddiffyn y rhannau o’r wlad ble na cheir y pla, a chyflawnir hynny trwy fesurau megis cyfyngiadau ar fewnforio coed derw risg uchel, gwyliadwriaeth helaeth a thriniaethau wedi’i thargedu i fynd i’r afael ag achosion o OPM sydd wedi’u canfod o fewn ardal clustogi i leihau’r risg o ymledu.

Mae OPM wedi’i sefydlu yn y rhan fwyaf o ardal Llundain Fwyaf ac mewn rhai siroedd cyfagos. Mae gweddill y Deyrnas Unedig (DU) wedi’i dynodi’n ardal heb y pla â chyfyngiadau arbennig ar symud planhigion derw i leihau’r risg o sefydlu OPM mewn mannau newydd. Diwygiwyd mesurau cryfach ynghylch mewnforio’r rhan fwyaf o rywogaethau derw yn 2022 i wella amddiffyniad y DU i atal rhagor o enghreifftiau o’r pla hwn rhag dod i’r wlad.

Rydym yn annog pawb i fod yn wyliadwrus am OPM, yn y gwanwyn a’r haf yn arbennig, ac i riportio unrhyw achosion a amheuir trwy TreeAlert: gweler ‘Adnabod’ a ‘Riportiwch eu gweld’ isod i gael arweiniad.

Bydd diweddariadau o raglen reoli OPM y Comisiwn Coedwigaeth ar gael trwy gydol y tymor mewn cylchlythyrau ynghylch rhaglen OPM sydd ar gael yn rheolaidd.

Dosbarthiad

Mae OPM wedi’i sefydlu yn neheubarth, canolbarth a gorllewin Ewrop cyn belled i’r gogledd â Phrydain Fawr, gogledd yr Almaen a’r Iseldiroedd.

Yn y DU, mae wedi sefydlu yn y rhan fwyaf o Lundain Fwyaf ac mewn rhai siroedd cyfagos yn Ne-ddwyrain Lloegr fel y dangosir yn y map dosbarthiad hwn.

I helpu tirfeddianwyr i gynllunio i reoli OPM, cyfeiriwch at y map parthau rheoli, yn ogystal â rhestr o awdurdodau lleol a wardiau sy’n rhan o’r parth clustogi a’r ardal ble mae OPM wedi sefydlu, drwy droi at y dudalen ganlynol: Managing oak processionary moth in England.

Y bygythiad i goed

Oak defoliated by OPM Richmond Park Max Blake FR 2017.jpg

Mae OPM yn bla coed oherwydd mae ei lindys yn bwydo ar ddail sawl rhywogaeth coed derw. Gall poblogaethau mawr adael coed derw yn noeth o’u dail, ac felly, byddant yn fwy agored i blâu a chlefydau eraill, ac i bethau eraill sy’n achosi straen, megis sychder. Mae’r llun uchod yn dangos canghennau derwen yn Llundain ar ôl bwydo trwm gan lindys OPM.

Y bygythiad i bobl ac anifeiliaid

OPM rash.jpg

Bydd lindys hŷn yn datblygu blew bychan sy’n cynnwys protein llidus o’r enw thaumetopoein: mae rhan o enw gwyddonol y rhywogaeth yn deillio o’r nodwedd hon. Gall dod i gysylltiad â’r blew achosi cosi, brech ar y croen (yn y llun uchod) a llid y llygaid, yn ogystal â dolur gwddf ac anawsterau anadlu mewn pobl ac anifeiliaid. Bydd y risg o ddod i gysylltiad â’r blew hyn ar ei gwaethaf ym mis Mai a mis Mehefin.

Gall y lindys ddiosg y blew pan fyddant dan fygythiad neu’n cael eu haflonyddu. Gall y gwynt chwythu’r blew a byddant yn cronni yn nythod y lindys, a all ddisgyn i’r llawr. Gallant lynu wrth foncyffion, canghennau, glaswellt a dillad, yn ogystal ag offer megis rhaffau a ddefnyddir gan feddygon coed a gweithwyr coedwigaeth a gofal tir.

Mae’r grwpiau sy’n fwyaf agored i’r peryglon iechyd yn cynnwys:

  • plant chwilfrydig;
  • anifeiliaid anwes chwilfrydig;
  • pobl sy’n gweithio ar goed derw neu’n agos atynt;
  • unrhyw un sy’n treulio amser yn agos at goed sydd wedi’u heigio; a
  • da byw ac anifeiliaid gwyllt sy’n pori ac yn chwilota.

Papur gan Public Health England ynghylch yr effeithiau ar iechyd yn sgil dod i gysylltiad â blew OPM.

Adnabod

Lindys

Byddwn yn aml yn cael adroddiadau am lindys nad ydynt yn rhai OPM, ac mae’r dudalen a’r poster a ganlyn yn cynnwys canllawiau ynghylch gwahaniaethu rhwng lindys OPM a rhai rhywogaethau eraill:

Fel arall, mae gan lindys OPM y nodweddion gwahaniaethol canlynol:

  • Mae ganddynt arferiad nodedig o symud o gwmpas ddiwedd y gwanwyn a dechrau’r haf gan ymdeithio trwyn-wrth-gynffon (mae eu henw yn deillio o hynny). Byddant yn aml yn ymdeithio ar siâp blaen saeth, a bydd un arweinydd a rhesi dilynol cyfochrog yn cynnwys sawl lindysyn.
  • Byddant yn byw ac yn bwydo bron yn gyfan gwbl ar goed derw. Weithiau gellir eu gweld yn ymdeithio ar draws y ddaear rhwng coed derw.
  • Fel arfer, ni fyddant yn effeithio ar rywogaethau coed llydanddail eraill oni bydd prinder o ddail derw i’w bwyta – maent wedi’u gweld yn bwydo ar gastanwydd, cyll, ffawydd, bedw a cherddin gwyllt. Fodd bynnag, ar y cyfan, ni allant gwblhau eu datblygiad ar rywogaethau coed eraill.
  • Byddant yn clystyru gyda’i gilydd wrth fwydo ar ddail derw ac wrth symud o le i le.
  • Dim ond tua chanol i ddiwedd y gwanwyn a dechrau’r haf (Mai, Mehefin a Gorffennaf) y’u gwelir.
  • Mae ganddynt flew gwyn hir iawn sy’n cyferbynnu’n sylweddol â’r blew llidus llawer byrrach, na ellir eu gweld bron.
  • Mae ganddynt gorff llwyd a phen tywyll. Mae gan larfau hŷn streipen dywyll ganolog â llinellau goleuach i lawr bob ochr.
  • Ni ellir eu canfod fel arfer ar ffensys, waliau ac adeileddau tebyg megis dodrefn gardd – bydd y rhain yn dueddol o fod yn lindys eraill sy’n edrych yn debyg.

Gweler hefyd:

Nythod

OPM nest new Max Blake FR 2017.jpg
  • cânt eu hadeiladu ar ddechrau’r haf;
  • cânt eu creu ar foncyffion a brigau coed derw (gweler y llun);
  • ni fyddant bron byth yn cael eu creu ymhlith dail coed derw, ar unrhyw rywogaethau coed neu lwyni eraill, ar ffensys, waliau ac adeileddau tebyg. Fel arfer, rhywogaethau diberygl fydd wedi creu nythod o’r fath, a ni fydd angen eu riportio;
  • maent wedi’u creu o webin gwyn sidanaidd nodedig, ac yn agos atynt, gellir gweld olion gwyn sidanaidd ar foncyffion a changhennau coed derw;
  • byddant yn dod yn afliwiedig ar ôl ychydig amser, ac yn anos eu gweled o ganlyniad i hynny (bydd hynny hefyd yn digwydd i’r olion sidanaidd);
  • bydd eu siapiau yn amrywio, a cheir rhai hemisfferig (hanner pêl), rhai â siâp deigryn, rhai sy’n ymdebygu i hamog, a rhai sydd fel blanced wedi’i hymestyn o amgylch rhan o foncyff neu gangen dderw;
  • maent yn amrywio o ran maint o ychydig gentimetrau o led i rai sy’n ymestyn sawl troedfedd ar draws;
  • gallant ddigwydd yn unrhyw le o lefel y ddaear i rannau uchel y dderwen;
  • gallant ddisgyn o goed derw a gellir eu canfod ar y ddaear; a
  • gallant lynu wrth y coed am fisoedd lawer, ar ôl i’r larfau chwileru ac ar ôl i’r gwyfynod llawndwf ymddangos; Efallai bydd sawl nyth ar yr un goeden neu gangen.

Bydd lindys hŷn yn bwydo gyda’r nos yn bennaf ac yn aros yn eu nythod yn ystod y dydd. Yn ddiweddarach yn yr haf, byddant yn cilio’n gyfan gwbl i’r nythod fel chwilerod, gan ailymddangos ychydig wythnosau’n ddiweddarach fel gwyfynod llawndwf.

Gwyfynod

Mae gwyfynod OPM (math llawndwf y rhywogaeth) yn wyfynod brown annodweddiadol sy’n anodd eu hadnabod yn gywir oherwydd maent yn debyg i nifer o rywogaethau. Nid ydynt yn peryglu iechyd, ac nid yw’r awdurdodau iechyd planhigion yn mynnu y dylid riportio achosion pan welir gwyfynod. Fodd bynnag, byddwn yn derbyn adroddiadau am wyfynod OPM, yn enwedig y benywod, a gaiff eu dal mewn trapiau golau gan gofnodwyr gwyfynod a all eu nodi’n gywir.

Gweithredu

Rydym yn annog pawb mewn ardaloedd sydd wedi’u heffeithio i ‘ganfod, osgoi a riportio’ yn achos y rhywogaeth hon. Yn ymarferol, mae hynny’n golygu y dylai pawb ddysgu sut i:

  • adnabod nythod a lindys OPM;
  • eu hamddiffyn eu hunain ac amddiffyn y bobl a’r anifeiliaid y maent yn goflau amdanynt rhag y peryglon iechyd – gweler ‘Rhagofalon iechyd’ isod; a
  • riportio unrhyw achosion a welir – gweler ‘Riportiwch eu gweld’ isod.

Dylai perchnogion a rheolwyr coed derw yn yr ardaloedd sydd wedi’u heffeithio hefyd ymgyfarwyddo â’r sut y gallant:

  • gyflawni eu dyletswydd gofal tuag at bobl eraill ac anifeiliaid;
  • cydymffurfio â’r rheoliadau sy’n llywodraethu rhegi OPM a symud planhigion derw; a
  • cydymffurfio â’r rheoliadau sy’n llywodraethu trin a symud deunydd derw sy’n deillio o dorri coed, gweithgarwch coedwigaeth a thrin coed.

Gweler ein Llawlyfr OPM ar gyfer Perchnogion Coed Derw, sy’n cynnig rhagor o gyngor ynghylch iechyd y cyhoedd ac anifeiliaid ac iechyd galwedigaethol.

Rhagofalon iechyd

  • peidiwch â chyffwrdd â nythod neu lindys OPM na mynd atynt;
  • peidiwch â gadael i blant nac anifeiliaid gyffwrdd â nythod neu lindys OPM na mynd atynt;
  • peidiwch â cheisio clirio nythod neu lindys eich hun; ac
  • osgowch dreulio amser neu treuliwch lai o amser o dan goed derw sydd wedi’u heintio neu mewn mannau ble bydd y coed hynny rhyngoch chi a’r gwynt, yn enwedig yn ystod diwrnodau gwyntog yn yr haf.

Cofiwch:

  • addysgu plant i beidio â chyffwrdd neu fynd at y nythod neu’r lindys;
  • hyfforddi anifeiliaid anwes i beidio â’u cyffwrdd na mynd atynt neu eu hatal rhag gwneud hynny;
  • sicrhau bod ceffylau a da byw yn ddigon pell oddi wrth unrhyw goed derw sydd wedi’u heigio i ofalu eu bod yn ddiogel  – gall ynysu neu orchuddio coed sydd wedi’u heigio a stablu anifeiliaid gynorthwyo yn hyn o beth;
  • mynd i weld fferyllydd i gael rhywbeth i liniaru croen neu lygaid llidiog os byddwch yn amau eich bod wedi dod i gysylltiad ag OPM;
  • ffonio llinell gymorth 111 y GIG neu fynd i weld doctor os byddwch chi’n credu eich bod chi neu fod rhywun yr ydych yn gofalu amdano/amdani wedi profi adwaith alergaidd difrifol – dywedwch wrth y meddyg eich bod yn meddwl eich bod chi neu fod rhywun arall wedi dod i gysylltiad ag OPM;
  • holi milfeddyg os byddwch yn credu bod ei anifail anwes neu eich da byw wedi’u heffeithio’n ddifrifol – dywedwch wrth y milfeddyg eich bod yn meddwl bod anifail wedi dod i gysylltiad ag OPM;
  • Cysylltwch â’ch cyngor lleol, Cymdeithas Rheoli Plâu Prydain neu’r Comisiwn Coedwigaeth a all ddarparu rhestr o weithredwyr rheoli plâu addas yn eich ardal; ac
  • os byddwch yn gweithio ar neu yn agos at goed derw yn y mannau sydd wedi’u heffeithio, er enghraifft, fel meddyg coed neu weithiwr coedwigaeth, tirweddu neu ofal tir, gwisgwch ddillad amddiffynnol llawn. Mae’r Canllaw OPM ar gyfer Perchnogion Coed Derw yn cynnig arweiniad ynghylch iechyd galwedigaethol.

Mae’r Canllaw OPM ar gyfer Perchnogion Coed Derw a gwefan NHS Choices yn cynnig rhagor o gyngor ynghylch iechyd y cyhoedd ac iechyd galwedigaethol.

Riportiwch eu gweld

Y cyhoedd, a gweithwyr proffesiynol coed, parciau, gerddi a gofal tir

Os byddwch yn credu eich bod wedi canfod nyth neu lindys OPM yn unrhyw le yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, rhowch wybod i ni am hynny yn syth trwy gyfrwng TreeAlert. Caiff eich adroddiadau eu hasesu gan ein gwyddonwyr a’u hanfon at yr awdurdodau iechyd planhigion fel y gallant weithredu’n briodol.

Yng Ngogledd Iwerddon, riportiwch unrhyw achosion y byddwch yn credu eich bod wedi’u gweld gan ddefnyddio TreeCheck, yr offeryn i riportio am blâu mewn unrhyw ran o Iwerddon.

Bydd angen i chi uwchlwytho ffotograff eglur wedi’i oleuo’n dda i TreeAlert neu TreeCheck, ond peidiwch â mentro dod i gysylltiad â’r blew wrth geisio tynnu llun.

Cyn riportio achos posibl, darllenwch ein hadran ‘Adnabod’ uchod a’r lluniau yn ein Llawlyfr OPM i sicrhau:

  • bod y goeden sydd wedi’i heffeithio yn goeden dderw. Mae’r rhan fwyaf o rywogaethau derw yn weddol hawdd i’w adnabod yn sgil eu dail a’u rhisgl nodedig; a
  • bod y lindys yn lindys ymdeithiwr y dderwen, nid lindys rhywogaeth arall.

Riportiwch nythod hyd yn oed os na fyddwch wedi gweld unrhyw lindys, oherwydd mae nythod yn arwydd defnyddio i awgrymo fod y pla yn yr ardal. Peidiwch â chyffwrdd â nythod ‘hysbyddedig’, oherwydd gallant gynnwys nifer fawr o’r blew llidus.

Peidiwch â riportio gwyfynod llawndwf oherwydd maent yn anodd eu hadnabod yn fanwl gywir. Fodd bynnag, byddwn yn derbyn adroddiadau am wyfynod OPM, yn enwedig y benywod, a gaiff eu dal mewn trapiau golau gan gofnodwyr gwyfynod a all eu nodi’n gywir.

Os na allwch ddefnyddio TreeAlert, gallwch riportio eu gweld trwy:

Os byddwch yn riportio gweld enghreifftiau trwy e-bostio neu dros y ffôn, cofiwch gynnwys:

  • manylion union leoliad y goeden neu’r coed – bydd cyfeirnod grid 10 digid o fap yr Arolwg Ordnans yn berffaith, e.e., AB 12345 12345. Fel arall, darparwch gyfeiriad llawn, gan gynnwys enw’r eiddo a/neu rif y stryd neu ffordd a’r cod post llawn; a/neu
  • cyfarwyddiadau manwl i alluogi dod o hyd i’r goeden neu’r coed, e.e., “40 metr i’r gogledd-orllewin o’r fynedfa i Barc (enw) yn Stryd (enw”;
  • rhif y gallwn ei ffonio i gysylltu â chi yn ystod y dydd i ofyn i chi gadarnhau unrhyw fanylion;
  • ffotograff eglur wedi’u oleuo’n dda ac adroddiadau trwy e-bost os gallwch chi; a
  • manylion cyswllt perchennog neu reolwr y goeden neu’r coed, os bydd hynny’n hysbys.

Masnach

Os ydych chi’n berchen ar neu’n gweithio mewn busnes sy’n masnachu planhigion derw a byddwch yn amau bod OPM arnynt, riportiwch hynny yn syth:

Triniaethau a chlirio nythod

OPM spraying 1 cropped.jpg

Llun: H. Kuppen

Er mwyn bod yn fwyaf effeithiol, dylai tasgau megis chwistrellu pryfleiddiad (yn y llun) a chlirio nythod gael eu hamseru’n ofalus a’u cyflawni gan weithwyr proffesiynol sydd â’r hyfforddiant a’r offer priodol. Gallai perchnogion a rheolwyr daliadau tir mwy sydd â staff gofal tir proffesiynol neu staff gofal coed gaffael eu hoffer eu hunain a hyfforddi eu staff i wneud y gwaith hwn. Mae ein Llawlyfr OPM ar gyfer Perchnogion Coed Derw yn cynnig arweiniad ynghylch:

Gweithredu swyddogol

Mae camau gweithredu a chymorth y Llywodraeth i dirfeddianwyr yr effeithir arnynt yn dibynnu ar ba un o’r tri pharth rheoli OPM yw lleoliad coed sydd wedi’u heffeithio: Dyma’r tri pharth:

  • yr Ardal ble mae OPM wedi Sefydlu, sef prif ardal yr heigiad;
  • y Parth Clustogi o amgylch yr Ardal ble mae OPM wedi Sefydlu; a’r
  • ardal ble na cheir y pla, sef gweddill y DU.

I ddarllen y canllawiau diweddaraf ynghylch parthau rheoli OPM, trowch at y dudalen we hon: Managing oak processionary moth in England.

Yn y Parth Clustogi a’r Ardal ble Na Cheir y Pla, gweithredir rhaglen o oruchwylio a rheoli OPM sy’n cael ei llywio gan y Comisiwn Coedwigaeth ac sydd wedi’i hariannu gan Defra. Nod y rhaglen yw atal y pla rhag lledaenu a lleihau ei effeithiau. Mae’r rhaglen yn cynnwys:

  • arolygu derw yn y gwanwyn a’r haf am arwyddion o lindys, nythod a thystiolaeth arall, er enghraifft, olion sidanaidd;
  • trin coed yr effeithir arnynt yn ofalus â phryfleiddiad neu fio-blaladdwr cymeradwy yn y gwanwyn i ladd y lindys yn fuan ar ôl iddynt ymddangos. Bydd hyn yn tueddu i ddigwydd tua chanol Ebrill, a cheir rhywfaint o hyblygrwydd o boptu i’r adeg honno. Dyma’r dull rheoli mwyaf dibynadwy ac effeithiol, ac mae ymdrechion y Comisiwn Coedwigaeth a ariennir gan y llywodraeth wedi canolbwyntio ar y dull hwnnw; a
  • defnyddio trapiau fferonomau i ddal gwyfynod gwryw llawndwf ar ddiwedd yr haf, sy’n gallu ein helpu i ganfod newidiadau yn nosbarthiad y pla, er enghraifft, ymledu i ardaloedd newydd.

Bydd clirio nythod â llaw yn y tri pharth yn digwydd yn ôl disgresiwn perchnogion y coed derw sydd wedi’u heffeithio. Caiff hynny ei wneud yn fwyaf effeithiol gan weithredwyr sydd wedi’u hyfforddi’n briodol ac sydd â’r offer priodol, ac sy’n gwisgo’r dillad amddiffynnol personol priodol. Bydd y gweithredwyr hyn yn clirio’r nythod gan ddefnyddio offer gwactod neu â llaw, a byddant yn gosod y nythod yn ddiogel mewn bagiau i’w gwaredu a’u llosgi.

Mae’n well tynnu’r nyth ar ôl i’r lindys chwileru, pan fydd yr holl chwilerod y tu mewn i’r nythod. Mae hyn yn lleihau nifer y gwyfynod llawndwf a fydd yn dod allan i ddodwy wyau. Mae hefyd yn lleihau’r perygl i iechyd lleol. Pan fydd y gwyfynod llawndwf wedi dod i’r amlwg, ni fydd clirio nythod bellach yn fodd o reoli, ond gall fod yn ddefnyddiol serch hynny i leihau’r risg i iechyd yn sgil nythod yn cwympo a blew’r lindys.

Perchnogion coed derw sy’n gyfrifol am arolygu a rheoli yn yr Ardal ble mae OPM wedi Sefydlu. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn cadw’r hawl i ddyroddi Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol (SPHNs) sy’n ei gwneud yn ofynnol i gael gwared â phla yn yr Ardal ble mae OPM wedi Sefydlu os plâu difrifol yn bygwth lledaenu Parth Clustogi. Hefyd, gall awdurdodau lleol ddefnyddio eu grymoedd ynghylch iechyd a diogelwch y cyhoedd i fynnu bod perchnogion coed yn eu clirio.

Mae ymateb y Comisiwn Coedwigaeth i achosion newid yn dilyn ei gynllun wrth gefn ynghylch OPM.

Mae adroddiad gweithredol y bartneriaeth OPM yn cynnwys y crynodeb blynyddol diweddar o weithgareddau. Gellir cael adroddiadau gweithredol blaenorol trwy e-bostio cais at opm@forestrycommission.gov.uk.

Rheoleiddio

Mae OPM yn destun rheoliadau i leihau’r risg y daw rhagor ohonynt i’r DU a lledaenu i ardaloedd newydd. Rhaid i weithwyr coedwigaeth, meddygon coed, gweithwyr tirweddu, staff meithrinfeydd planhigion ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â thyfu, symud, rheoli a mewnforio coed derw gydymffurfio â’r rheoliadau hyn. I ddarllen y canllawiau diweddaraf, trowch at y dudalen we hon: Managing oak processionary moth in England.

Mae manylion y gofynion cyfreithiol ynghylch mewnforio coed a phlanhigion derw ar gael yn GOV.UK.

Tarddiad a chefndir

Mae OPM yn hanu o ganol a deheubarth Ewrop, ble bydd ysglyfaethwyr a ffactorau amgylcheddol ac ecolegol fel arfer yn cadw ei niferoedd dan reolaeth ac yn lleihau ei effaith. Fodd bynnag, mae ei gwmpas wedi bod yn ehangu tua’r gogledd ers diwedd yr 20fed ganrif. Mae’r ehangu wedi cael ei gynorthwyo yn sgil symud coed derw byw at ddibenion masnach ac efallai fod OPM yn bresennol arnynt, ac efallai hefyd fod hinsawdd yn cynhesu wedi cyfrannu at hynny. Mae bellach wedi sefydlu cyn belled i’r gogledd â’r Iseldiroedd a gogledd yr Almaen, ac fe’i gwelwyd o bryd i’w gilydd yn Sweden.

Darganfuwyd OPM ym Mhrydain am y tro cyntaf yn 2006, yng Ngorllewin Llundain. Mae ei ddosbarthiad presennol wedi codi o’r pwynt hwnnw a mannau dilynol eraill ble cyflwynwyd rhagor yn Llundain. Os bydd yn parhau i ymledu, efallai y bydd yn cytrefu llawer o rannau eraill o Gymru a Lloegr yn y pen draw.

Cyflwynwyd nifer fechan o OPM ar wahân hefyd yn Leeds yn 2009 a Sheffield yn 2010, a chafodd lindys byw eu rhyng-gipio ar goeden dderw a oedd newydd ei phlannu yn Wiltshire yn 2018. Yn 2019, ymdriniodd y gwasanaethau iechyd planhigion â sawl achos ar goed a fewnforiwyd yn ddiweddar o Ewrop. Gweithredwyd i ddileu OPM ym mhob un o’r safleoedd hyn. Maent yn dal i fonitro’r sefyllfa i atal y pla rhag lledaenu yn yr Ardal ble Na Cheir y Pla.

 Deunyddiau cysylltiedig

Cysylltiadau

I gysylltu â thîm OPM y Comisiwn Coedwigaeth:

I riportio gweld OPM: