Crynodeb

Leone Olivieri and Racheal Lee by monitoring instrumentation in an area of recently-felled woodland.

Mae Rhwydwaith Goruchwyliaeth Iechyd Planhigion Cymru (WPHSN) yn brosiect arloesol a ariennir gan Lywodraeth Cymru a luniwyd i fonitro plâu a phathogenau brodorol ac ymledol a all fygwth iechyd planhigion a choed ledled Cymru. Bydd trapiau pryfed a sborau a osodir ar safleoedd coetiroedd strategol yn ein galluogi i gofnodi presenoldeb a/neu helaethrwydd pryfed a sborau ffyngau. Caiff y samplau o bryfed eu dadansoddi ar y cyfan gan staff yng Nghymru, a chaiff eraill, a’r holl sborau a gesglir, eu hanfon i’n cyfleusterau iechyd planhigion o’r radd flaenaf yn Alice Holt ar gyfer profion labordy manwl. Mae data o’r WPHSN yn cael eu defnyddio i lywio datblygiad nodau a pholisïau blaenoriaethol sy’n ymwneud â rheoli coetiroedd yng Nghymru.

Mae adolygiadau llawn o’r ddau dymor gwaith maes cyntaf ar gael i’w lawrlwytho isod.  Mae’r dogfennau hyn yn disgrifio ac yn adrodd ar y gweithgareddau a gyflawnwyd ym mhob blwyddyn o’r prosiect arloesol hwn.  Rydym hefyd wedi llunio crynodeb byr o’r wybodaeth allweddol a geir yn adroddiad 2023.

Amcanion yr ymchwil

Racheal Lee sampling for bark beetles in a log from the stem of a felled conifer.Amcan y gwaith ymchwil parhaus hwn yw cyflawni’r elfen seiliedig ar goed o Rwydwaith Arolygiaeth Iechyd Planhigion Cymru (WPHSN), sy’n un o flaengareddau iechyd planhigion Llywodraeth Cymru. Caiff samplau biolegol a gesglir gan staff FR yng Nghymru eu hanfon yn ddiogel i’w dadansoddi a’u diagnosio gan staff labordy’r Gwasanaeth Diagnostig a Chynghori Iechyd Coed yn Alice Holt a Gorsaf Ymchwil y Gogledd. Yn WPHSN, byddwn yn:

  • gosod trapiau sborau a phryfed ledled mewn coetiroedd ledled Cymru;
  • casglu data ac adeiladu map o ddosbarthiad plâu a phathogenau, gan gofnodi eu helaethrwydd;
  • cynorthwyo â phrosesau gwneud penderfyniadau a llywio datblygiad polisïau a gweithdrefnau yn y dyfodol yn ymwneud â rheoli coetiroedd yng Nghymru;
  • achydweithio ag asiantaethau allanol i ddatblygu rhwydwaith gwyliadwriaeth iechyd planhigion, gan ganiatáu i wybodaeth a chyngor gael eu rhannu’n rhwydd â’r sector a darparu cymorth ymarferol hygyrch at ddibenion canfod ac adnabod plâu a phathogenau yn gynnar.

Y diweddariadau mwyaf newydd

2023 – yr ail dymor

2022 – y tymor cyntaf

Ein Cyfranogiad

Racheal Lee (L) and Leone Olivieri (R) preparing to engage in an informal knowledge exchange event at the 2023 Royal Welsh Show.

  • Gweithgareddau ymchwil a datblygu.
  • Arolygon maes.
  • Dadansoddiadau mewn labordai.
  • Cofnodi data.
  • Rhoi adroddiadau i swyddogion iechyd planhigion yng Nghymru.
  • Cydweithredu ag asiantaethau allanol.
  • Datblygu ymwybyddiaeth y cyhoedd e.e., drwy weithgareddau cyfnewid gwybodaeth, cyfryngau digidol, ac yn Sioe Frenhinol Cymru.

 

Lawrlwythiadau

Cyllid a phartneriaid

  • llywodraeth cymru welsh government Ariennir y gwaith hwn gan Lywodraeth Cymru.