Presennol yn y DU
Hysbysadwy – gweler ‘Riportiwch eu gweld’ isod
Enw gwyddonol – Ips typographus
(LLun: Gyorgy Csoka, Hungary FRI, Bugwood.org)
Mae’r chwilen rhisgl sbriws Ewropeaidd wyth dant fwy yn un o blâu dinistriol coed sbriws (coed yng ngenws Picea) yn ogystal â rhywfaint o rywogaethau coed eraill yng ngenera eraill y coed conwydd.
Fe’i gelwir hefyd yn chwilen rhisgl sbriws Ewropeaidd, chwilen rhisgl sbriws wyth dant, chwilen risgl, chwilen wyth dant, chwilen ysgythru, chwilen wyth pigfain, a chwilen rhisgl sbriws.
Ei henw gwyddonol yw Ips typographus (I. typographus). Yn flaenorol roedd gan y rhywogaethau enwau gwyddonol Dermestes typographus, Linnaeus; Bostrichus octodentatus, Paykull; ac Ips japonicus, Niijima.
Mae chwilod rhisgl sbriws Ewropeaidd wyth dant mwy (Picea abies) yn bresennol mewn coed sbriws, yn enwedig coed sbriws Norwy, yn y rhan fwyaf o wledydd tir mawr Ewrop. Mae’r amrediad yn ymestyn o Rwsia a Sgandinafia yn y gogledd i’r Eidal, Slofenia a Bosnia-Hertsegofina yn y de, a Ffrainc, Gwlad Belg a’r Iseldiroedd yn y gorllewin.
Mae hefyd yn bresennol yn Tsieina, Japan, Gogledd a De Corea, a Thajicstan.
Darganfuwyd achos (poblogaeth fridio) yn y Deyrnas Unedig. Lleolwyd yr achos mewn coetir yng Nghaint, Lloegr, ym mis Rhagfyr 2018, ac mae’n destun camau dileu statudol ar hyn o bryd.
Ers 2018, mae’r Comisiwn Coedwigaeth wedi bod yn cynnal gwyliadwriaeth fanylach ledled De-ddwyrain Lloegr, gan gynnwys drwy ddefnyddio rhwydwaith o drapiau. Caiff chwilod eu dal yn rheolaidd yn y trapiau hyn, ac mae’n debyg bod hynny’n digwydd oherwydd caiff y chwilod eu chwythu i’r ardal o dir mawr Ewrop.
Yn 2021, canfuwyd sawl achos arall o Ips typographus yng Nghaint a Dwyrain Sussex, ac mae’r rhain yn destun gwyliadwriaeth bellach a chamau swyddogol.
(Gweler ‘Gweithredu a rheoleiddio swyddogol‘ isod.)
Er mai ‘pla eilradd’ yw’r chwilen yn bennaf, sy’n ffafrio coed marw, coed dan straen neu goed gwan, o dan yr amodau amgylcheddol cywir, gall ei niferoedd gynyddu digon i achosi ymosodiadau ar goed. Os na chaiff ei rheoli, gallai’r chwilen achosi difrod sylweddol i ddiwydiannau coedwigaeth a phren sbriws y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn arbennig o wir mewn mannau ble ceir ffyngau pathogenaidd (yn achosi clefyd), oherwydd gall y chwilod eu lledaenu. Mae ffwng staen glas (Endoconidiophora polonica) yn benodol yn gysylltiedig â’r chwilen rhisgl sbriws Ewropeaidd wyth dant fwy ar dir mawr Ewrop.
Caiff pyrwydd Sitka (Picea sitchensis) eu tyfu’n eang yn y DU, yn enwedig mewn rhanbarthau gorllewinol a gogleddol, ble maent addas iawn ar gyfer yr hinsawdd wlypach. Mae buddsoddiadau gwertho cannoedd o filiynau mewn busnesau a miloedd o swyddi mewn meithrinfeydd planhigion, coedwigoedd, busnesau cludo pren, melinau llifio a diwydiannau eraill sy’n defnyddio coed yn dibynnu arno i raddau. Tyfir sbriws Norwy (P. abies) hefyd, er bod yr arwynebedd ble plannir y rhywogaeth hon wedi bod yn prinhau gan fod yn well gan lawer o dyfwyr newid i rywogaethau eraill, gan gynnwys sbriws Sitka, wrth ailblannu safleoedd wedi’u cynaeafu.
Mae’r rhan fwyaf o rywogaethau sbriws yn agored i ymosodiad gan chwilod rhisgl sbriws wyth dant, ac mae presenoldeb eang sbriws Norwy ar gyfandir Ewrop yn golygu mai dyma’r rhywogaeth yr effeithir arni fwyaf.
Fodd bynnag, gwelwyd y chwilod ar rywogaethau coed conwydd eraill, gan gynnwys coed ffynidwydd (rhywogaethau Abies), pinwydd (rhywogaethau Pinus) a llarwydd (rhywogaethau Larix).
Bydd chwilod rhisgl sbriws Ewropeaidd mwy wyth dant mwy yn aml yn gysylltiedig â choed sbriws wedi’u chwythu drosodd gan y gwynt, rhai sydd wedi’u difrodi a rhai sydd wedi’u cwympo’n ddiweddar, ble bydd eu niferoedd yn cronni cyn iddynt fynd ati i ymosod ar goed byw cyfagos. Felly, dylid blaenoriaethu archwilio coed yn y categori hwn.
Chwiliwch hefyd am goed marw unigol, neu grwpiau ohonynt. Bydd grwpiau i’w gweld pan fydd y chwilod yn “ymosod yn dorfol” ar goed, gan oresgyn amddiffynfeydd arferol y coed trwy gyfuniad o niferoedd mawr a ffwng staen glas. Gall y cam hwn achosi marwolaethau nifer helaeth o goed.
Os yw bydd chwilod rhisgl sbriws wyth dant, wedi heigio mewn coeden dylai archwili’r rhisgl, a’r pren o dan y rhisgl, ddatgelu system galerïau llinellol, lle bydd y benywod yn dodwy eu hwyau.
(Llun: Milan Zubrik, FRI Slovakia, Bugwood.org)
Bydd galerïau larfaol yn ymledu allan o’r orielau llinol hyn, fel y gwelir yn y llun uchod, gan fynd yn lletach wrth i’r larfa dyfu wrth iddynt dyllu ar eu hyd. Mae’r patrwm galerïau hwn yn unigryw i’r rhywogaeth hon, ac felly gellir dibynnu arno fel dangosydd i gadarnhau ei phresenoldeb. Fodd bynnag, efallai na fydd y patrwm bob amser mor hawdd i’w ddirnad ag y mae’r disgrifiad uchod a’r llun yn ei awgrymu, felly dylid trin unrhyw amrywiad ag amheuaeth ac ymchwilio ymhellach iddo.
Yn aml, gelwir chwilod Ips yn chwilod ‘ysgythru’ oherwydd mae’r galerïau yn ymdebygu i waith ysgythru, fel yn y llun isod. Y nodwedd hon hefyd a ysgogodd ei henw gwyddonol ‘Ips typographus’ oherwydd teipograffeg yw enw crefft ysgythru.
(Llun: Milan Zubrik, FRI Slovakia, Bugwood.org)
Bydd chwilod llawndwf yn gaeafgysgu o dan risgl coed, boncyffion a sbwriel dail. Yna, byddant yn ailymddangos yn y gwanwyn, pan fydd y tymheredd yn codi uwchlaw 20 °C. Fel yr holl chwilod yng ngenws Ips, mae ganddynt bigau nodedig ar eu rhan ôl.
Sylwer y gellir drysu rhwng y chwilen rhisgl sbriws Ewropeaidd wyth dant fwy a’r chwilen fawr rhisgl y sbriws (Dendroctonus micans), un arall o blâu coed sbriws.
Mae’r canllaw maes ynghylch symptomau hwn gan y Comisiwn Coedwigaeth yn cynnig rhagor o gymorth i nodi’r rhywogaethau.
Fe wnaeth darganfod achosion yng Nghaint a Dwyrain Sussex amlygu risg sefydlu’r rhywogaeth yn ddamweiniol a’i lledaenu yn sgil hynny, a bod angen i ni wylio’n ddiddiwedd am y pla hwn yn y DU. Os bydd rhywun yn credu eu bod wedi’u gweld, bydd yn rhaid hysbysu’r awdurdodau iechyd planhigion yn syth.
Cofiwch y bydd angen uwchlwytho ffotograffau wrth ddefnyddio TreeAlert a TreeCheck i roi gwybod am achosion. Dylent fod yn ffotograffau eglur a golau o’r symptomau a/neu’r chwilod eu hunain wedi’u tynnu’n achos.
Hefyd, gall unrhyw un sy’n credu eu bod wedi gweld achosion hysbysu’r awdurdod iechyd planhigion perthnasol yn uniongyrchol. Dyma’r dull a ffafrir os bydd rhywun yn credu eu bod wedi gweld achosion mewn lleoliadau masnachol, e.e. meithrinfeydd planhigion, canolfannau garddio, porthladdoedd a melinau prosesu coed.
Ym mhob achos, dylech ddarparu manylion penodol y lleoliad ac, os yn bosibl, ffotograffau eglur o’r pla a/neu symptomau.
Gall y rhywogaeth ehangu ei chwmpas yn naturiol, â chymorth ei gallu i ganfod deunydd lletyol addas, yn enwedig coed marw neu goed dan bwysau a choed gwan. Bydd hyn yn neilltuol o wir ar ôl digwyddiadau sy’n tarfu ar yr amgylchedd sy’n lladd neu’n rhoi pwysau ar nifer fawr o goed, er enghraifft, stormydd, sychder ac ymosodiadau difrifol gan ffyngau. Gall y deunydd lletyol newydd helaeth sy’n deillio o hynny achosi cynnydd cyflym yn y boblogaeth, a gall hynny ysgogi’r chwilod i ymosod ar goed iach.
Gall y rhywogaethau hefyd gael ei gwasgaru wrth symud boncyffion a choed tân heigiog mewn masnach.
Mae Ips typographus yn bla endemig ar dir mawr Ewrop, ond tan 2018, nid oedd yn hysbys ei fod yn bresennol yn y DU. Felly, caiff Ips typographus ei rheoleiddio fel Pla Cwarantîn i’n hamddiffyn rhag sefydlu’r chwilen.
Gweler Gofynion pasbortau masnach a phlanhigion Rheoleiddiedig yr Undeb Ewropeaidd (UE) i gael esboniad ynghylch rheolaethau ar symud deunydd coed conwydd ym Mhrydain Fawr.
Mae cynllun wrth gefn y Comisiwn Coedwigaeth yn nodi’r camau a fyddai’n cael eu gweithredu – ac a weithredwyd yn sgil yr achos yng Nghaint yn 2018, ac sy’n cael eu gweithredu yn sgil yr achos presennol yng Nghaint a Dwyrain Sussex – pe bai achos o chwilod rhisgl sbriws Ewropeaidd wyth dant mwy yn cael ei ddarganfod ym Mhrydain Fawr.
Mae’r rhywogaeth yn destun Gorchymyn Iechyd Planhigion (Ips typographus) (Lloegr) 2019, sy’n rhoi pwerau i’r Comisiynwyr Coedwigaeth i weithredu i atal y pla rhag lledaenu o safleoedd ble ceir achosion. Mae gwybodaeth fanylach am y pwerau a’r cyfyngiadau hyn, a’r camau a weithredwyd yng Nghaint a Dwyrain Sussex, ar gael ar wefan Llywodraeth y DU.